Y Lab Cynaliadwyedd dyfodol gwell ar y gweill

(English) Y Lasynys Fawr Mansion House
Friends of Ellis Wynne

Astudiaeth Achos Prosiect

Mae’r Lasynys Fawr ger Harlech, Gwynedd yn lleoliad pwysig i ddiwylliant Cymreig. Yma ganwyd Ellis Wynne, y clerigwr a’r llenor Cymraeg sy’n enwog am ei waith, Gweledigaethau y Bardd Cwsg cyhoeddwyd yn 1703.

Cyfeillion Ellis Wynne sydd yn gyfrifol am y Plasty. Eu nod yw galluogi’r gymuned leol i ddefnyddio’r plasty ar gyfer digwyddiadau diwylliannol. Maent yn annog ymwelwyr ac wrthi yn datblygu cynlluniau am ganolfan ddehongli newydd. I ddatblygu cynllun rheoli cynaliadwy cynhaliwyd asesiad bioamrywiaeth o’r safle gan ein tîm Peirianneg Ecolegol. Mae’r adroddiad terfynol yn drysorfa o ffeithiau am gynefinoedd o gwmpas y Plasty, y planhigion lleol a rhywogaethau anifeiliaid, cynllun rheoli a’r pwysigrwydd i gynnal bioamrywiaeth. Bydd y wybodaeth ar gael ar fyrddau dehongli ar gyfer ymwelwyr. Bydd Y Lasynys Fawr yn rhan o rwydwaith o fusnesau sy’n annog atyniadau i weithio a’i gilydd i wella profiadau ymwelwyr ac i berswadio ymwelwyr aros am gyfnodau hirach.


0 comments


Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Social Network Integration by Acurax Social Media Branding Company