Y Lab Cynaliadwyedd dyfodol gwell ar y gweill

Egwyddorion newid ymddygiad a datblygiad cynaliadwy yn cynorthwyo busnesau serennu
Delphius

Astudiaeth Achos Prosiect

Mae Delphius, cwmni hyfforddi a mentora, wedi gweithio gyda Thîm Cynaliadwy Busnes a’r Ganolfan Newid Ymddygiad Cymru i roi egwyddorion newid ymddygiad a niwro-seicoleg wrth wraidd ei waith arwain a mentora.

Mae Janet Hamilton-Wilks, Perchennog, wedi ddefnyddio BrawfIechyd Cynaliadwy Busnes ac i fynychu gweithdy CNYC am ddim i adnabod meysydd i adeiladu a chryfhau ei busnes. Roedd hyn yn arwain at ysgrifennu polisïau allweddol. Trwy ddefnyddio fframwaith cynaliadwyedd busnes mae Delphius wedi diffinio ei brand. Trwy adnabod y gweithgareddau busnes sydd yn cyfrannu yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn economaidd mae Janet wedi adnabod hefyd yr agweddau sydd yn creu’r gwahaniaeth rhwng ei busnes hi a rhai eraill.

Y ffaith ei bod hi wedi gallu teilwra Polisi Amgylcheddol at ei busnes wedi helpu Janet i wybod bod Delphius yn cyfrannu yn wirioneddol at wella effaith ar yr amgylchedd ac nid mond yn ticio bocs. Mae Delphius hefyd wedi ymrwymo at yr iaith Gymraeg. I Delphius mae hi yn i’ wneud synnwyr busnes i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn weledol ar gyhoeddiadau ac adnoddau marchnata, ac i hybu gweithwyr i siarad yn y Gymraeg.


0 comments


Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Social Media Integration by Acurax Wordpress Developers