Y Lab Cynaliadwyedd dyfodol gwell ar y gweill

19.2.18
Mwy o natur, llai o’r sgrin! #GoGreenWeek

Newyddion - cymuned, Newyddion - Y Lab Cynaliadwyedd, Newyddion - prifysgol

Gan Jo Stroud

A allech chi roi eich dyfeisiau o’r neilltu a mwynhau natur?

Dyma’r cwestiwn y gofynnodd Lab Cynaliadwyedd a Gardd Fotaneg Prifysgol Bangor i fyfyrwyr, staff a’r gymuned leol yr wythnos diwethaf fel rhan o ddathliad cenedlaethol prifysgolion y DU o’r Wythnos Mynd yn Wyrdd.

View of sunny countryside through a heart-shaped window surrounded by indoor plantsPan fyddwch yn camu allan i le gwyrdd neu’n rhoi cartref i blanhigyn, mae’n rhoi cymaint i chi – rhyddhad o straen, awyr iach, ysbrydoliaeth, cyfle i ymlacio, gwyrddni, harddwch, llawenydd.  Er mwyn annog pobl i fynd yn wyrdd, plannwyd coed gydag addewidion i “wylio mwy o natur a gwylio llai o’r sgrin” ledled y brifysgol, yn cynnwys yng Ngerddi Botaneg y brifysgol, yn y pedair llyfrgell, yn y Ganolfan Myfyrwyr Rhyngwladol, Undeb y Myfyrwyr ac adeilad Pontio.  Gofynnwyd i bobl oedd yn cerdded heibio ysgrifennu eu haddewid i wylio mwy o natur a gwylio llai o’r sgrin ar ddeilen neu afal, tynnu hunlun gyda’u haddewid, ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yna bod yn wyrdd am weddill yr wythnos!

Mae Wythnos Mynd yn Wyrdd Bangor yn rhan o Garnifal Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor, fydd yn arddangos ystod ac amrywiaeth y digwyddiadau sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd a gynhelir mewn mis arferol ym Mhrifysgol Bangor – mis cyfan o ddigwyddiadau cyffredin!

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am “wylio mwy o natur, gwylio llai o’r sgrin”, yr Wythnos Mynd yn Wyrdd, y Carnifal Cynaliadwyedd ym Mangor neu i drefnu gweithgaredd Mynd yn Wyrdd yn 2019, cysylltwch â Jo yn Y Lab Cynaliadwyedd.

Cewch ragor o wybodaeth am yr Wythnos Mynd yn Wyrdd a’r Carnifal Cynaliadwyedd ar Twitter a Facebook yn #GoGreenWeek a #Carnifal

 


0 comments


Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Customized Social Media Icons from Acurax Digital Marketing Agency