Y Lab Cynaliadwyedd dyfodol gwell ar y gweill

Timau bwyd a diod

  • Lleoedd i fwyta ac yfed

    Rydym wedi ymrwymo i ddarparu bwyd blasus a gwerth am arian gan ddefnyddio cynhwysion ffres a lle bo modd, o ffynonellau lleol.

    Mae ein holl leoliadau bwyta wedi eu hachredu gan Fasnach Deg, rydym yn defnyddio pysgod o ffynonellau cynaliadwy ac mae ein holl wyau yn wyau maes.

    Ceir pryniant sylweddol ar gyfer arlwyo gan gyflenwyr y fframwaith TUCO sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd y gadwyn gyflenwi ac yn darparu gwybodaeth, adnoddau a rhwydweithiau helaeth i ni ddysgu am y datblygiadau diweddaraf o ran arlwyo cynaliadwy.

    Polisi bwyd cynaliadwy 2017

    Cynaliadwyedd arlwyo: strategaeth a chynllun gweithredu cryno 2016-2017

  • Arwain yn lleol a rhanbarthol

    Mae ein Hysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (SENRGy) yn arwain ym maes bwyd cynaliadwy o fewn y brifysgol a’r rhanbarth. Meddai Dr Eifiona Thomas Lane, darlithydd mewn daearyddiaeth bwyd a rheolaeth amgylcheddol, sy’n arwain y fenter:

     Mae cynaliadwyedd wrth wraidd cenhadaeth Prifysgol Bangor. Rydym ni yn yr Ysgol yn canolbwyntio ar weithio gyda chynhyrchwyr bwyd a diod ar draws y rhanbarth i’w galluogi i arloesi gyda bwyd ‘gwyrdd’ a dod yn fwy cynaliadwy a chystadleuol.”

    Mae digwyddiadau megis ‘Bwyd a Diod Gogledd Cymru’n Mynd yn Wyrdd’ yn rhoi cyfleoedd i fusnesau lleol yn y sectorau bwyd a diod i drafod eu hymrwymiad i ddatblygu diwydiant bwyd cynaliadwy a rhannu diddordebau neilltuol megis rheoli gwastraff bwyd.

  • Siarter Bwyd Rhanbarthol

    Mae Siarter Bwyd i ddatblygu gweledigaeth ar bwyd a systemau bwyd ar gampws ac yn y rhanbarth yn cael ei gyd-ddatblygu gan Eifiona Thomas-Lane ym Mhrifysgol Bangor. Fel cadeirydd Menter Gymdeithasol Gwynedd Gynaliadwy, sefydlodd Eifiona’r Siarter Bwyd cyntaf i Wynedd a Môn a lansiwyd yn Eisteddfod 2012. Mae’r Siarter Bwyd yn ymdrech ar y cyd rhwng tyfwyr, cynhyrchwyr, projectau bwyd cymunedol, awdurdodau statudol a byrddau lleol/gwasanaeth cyhoeddus (Cyngor a Bwrdd Iechyd), ffermwyr, gwestai, cyfanwerthwyr, siopau a’r sector twristiaeth. Yn hytrach na bod yn ddatganiad polisi anhyblyg mae’n rhoi gweledigaeth o’r ffordd yr hoffem weld ein system bwyd yn datblygu ar draws ein rhanbarth. Mae gwaith yn parhau ar y Siarter hon, yn cynnwys ymchwil i fwyd cymunedol a rhwydwaith o fudd-ddeiliaid.

    Thomas Lane, E., Jones, R., Jones, A. a Mitchelmore, S (2016) Exploring the potential of local food and drink entrepreneurship in rural Wales. Local Economy 31: 602-618.

  • Siarter Bwyd y Campws

    Yn ystod blwyddyn academaidd 2017-18 bydd Gwasanaeth Arlwyo Prifysgol Bangor, Bywyd Campws, Undeb y Myfyrwyr Bangor a’r Labordy Cynaliadwyedd yn gweithio gydag Eifiona Thomas Lane a’i thîm o arbenigwyr bwyd cynaliadwy yn SENRGy i wrando ar farn ein myfyrwyr ynghylch beth fyddai’n fwyd da ar y campws, gyda’r nod o gyd-ddatblygu Siarter Bwyd Campws dan arweiniad myfyrwyr i Brifysgol Bangor.

    Mae gwastraffu bwyd eisoes yn bwnc llosg ym Mangor a bydd yn thema yn ein Hwythnos Ymwybyddiaeth Gwastraff. Dewch i’n digwyddiadau a restrir i gael gwybod mwy.

  • Efrydiaeth PhD

    Mae un myfyriwr ffodus wedi’i benodi i efrydiaeth PhD yn meincnodi cynaliadwyedd cwrw a gynhyrchir ar raddfa fach. Fe’i cyllidir gan Knowledge Economy Skills Scholarships (KESS 2) mewn cydweithrediad ag Adran Fwyd Llywodraeth Cymru.

    Mae cynhyrchu cwrw’n cyfrannu £22 biliwn y flwyddyn i economi’r Deyrnas Unedig. Yn ystod y 15 mlynedd ddiwethaf mae 70 o fragdai bach wedi agor yng Nghymru oherwydd y galw am nwyddau ‘lleol’ gydag ansawdd a blas arbennig iddynt. Bydd y myfyriwr yn defnyddio methodoleg asesu cylch bywyd (LCA) i roi sylw i’r cwestiynau a ganlyn:

    • Sut mae ôl-troed amgylcheddol cwrw Cymreig a gynhyrchir ar raddfa fach yn cymharu â chwrw a gynhyrchir mewn bragdai mwy
    • Beth yw canlyniadau cynhyrchu cwrw Cymreig i gyflogaeth ranbarthol ac ychwanegu gwerth gros?
    • Pa gamau y gall bragwyr bychan a Llywodraeth Cymru eu cymryd i leihau ôl-troed amgylcheddol cwrw?

    Mae astudiaethau ôl-troed carbon yn dangos bod gan gwrw potel ôl-troed tebyg iawn i lefrith. Mae dulliau ceisio deunydd crai, gweithrediadau bragu, rheoli gwastraff, pecynnu a dewisiadau dosbarthu yn ffactorau pwysig wrth ystyried yr ôl-troed. Ond mae yna ddiffyg tystiolaeth drwyadl yn ymwneud â pherfformiad amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol ehangach cwrw wedi’i gynhyrchu ar raddfa fach o’i gymharu â chwrw a gynhyrchir mewn bragdai mawr.

    Bydd y project PhD yn rhoi sylw i’w bwlch hwnnw drwy gyfrifo olion traed carbon, maetholion, dŵr a thir, a metrigau economaidd-gymdeithasol (e.e. ychwanegu gwerth a chyflogaeth) yn achos cadwyni gwerth cwrw. Caiff cwrw arbenigol Cymreig ei feincnodi yn erbyn cwrw a gaiff ei fragu mewn bragdai mawr. Bydd y myfyriwr yn pwyso ar yr arbenigedd LCA ym Mhrifysgol Bangor, a bydd yn gweithio gydag Adran Bwyd Llywodraeth Cymru a phartneriaid o ddiwydiant i sefydlu rhwydwaith arloesi cynaliadwy micro-fragdai, er mwyn:

    1. Meincnodi effeithiolrwydd adnoddau/amgylcheddol micro-fragdai Cymreig a hyrwyddo mesurau effeithiol i’w gwella
    2. Darparu metrigau cynaliadwy wedi’u dilysu y gellir eu defnyddio i farchnata cwrw Cymreig
    3. Hyrwyddo polisi Llywodraeth Cymru ar ddatblygu cynaliadwy y sectorau bwyd a diod yng Nghymru

    Mae SENRGy yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei hymchwil draws-ddisgyblaethol ar ddefnydd tir a chynhyrchu bwyd. Goruchwylir y myfyriwr gan Dr Eifiona Thomas Lane a Dr Dave Styles, a bydd yn manteisio oddi wrth gyswllt cryf â gwneuthurwyr polisi a diwydiant, ac o fod yn rhan o dîm ehangach yn gweithio ar brojectau cysylltiedig.

    Os ydych eisiau gwybodaeth ddiweddaraf am y gwaith cyffrous hwn, cysylltwch â:
    Dr Eifiona Thomas-Lane +44 (0)1248 38 3233
    Dr Dave Styles +44 (0)1248 38 2502

  • Y Fforwm Bwyd a Diod

    Mae nifer o gyfarfodydd a sgyrsiau ar fwyd a diod gyda siaradwyr gwadd allanol yn cael eu trefnu gan SENRGy yn ystod y flwyddyn academaidd i ddod.

    Un enghraifft o hyn yw ‘Bwyd am Oes’, sydd wedi bod yn ddigwyddiad rheolaidd am lawer o flynyddoedd gyda mannau arlwyo ar y campws. Bydd yr achlysur eleni drachefn yn agored i’r cyhoedd ac fe’i cynhelir yn Thoday G23. Cadwch olwg am ddyddiadau yn ein rhestrau digwyddiadau.

  • Gweithgareddau eraill

    • Mae PhD yn astudio tlodi bwyd yn datblygu’n dda ac yn gysylltiedig â gwaith yn ymwneud â mynediad ehangach at fwyd drwy gyfrwng caffis cymdeithasol lleol a sefydliadau cyffelyb.
    • Mae Eifiona Thomas Lane a thîm o arbenigwyr cynaliadwyedd bwyd yn gweithio i gefnogi cynnyrch lleol a marchnadoedd bwyd.
    • Cynhelir trafodaethau ar Fwyd Ucheldir a Defnydd Tir yn ystod y flwyddyn academaidd hon
    • Mae’r brifysgol yn cynnig dau fodiwl newydd ar Ddaearyddiaeth Bwyd ac Arloesi gyda Bwyd a Diod i fyfyrwyr trydedd flwyddyn yn dechrau’r semester hwn

Animated Social Media Icons by Acurax Responsive Web Designing Company