Y Lab Cynaliadwyedd dyfodol gwell ar y gweill

25.3.18
Amser ar gyfer dyfodol disgleiriach #AwrDdaear

Featured, Newyddion - cymuned, Newyddion - rhyngwladol, Newyddion - Y Lab Cynaliadwyedd, Newyddion - prifysgol

Mae’r Brifysgol yn helpu i adeiladu dyfodol disgleiriach trwy gefnogi Awr Ddaear WWF pob blwyddyn. Mae hwn yn ddigwyddiad trawiadol a symbolaidd lle diffoddir y goleuadau ac mae’n tynnu sylw’r byd at ein planed a’r angen i’w gwarchod.

I ddathlu’r degfed Awr Ddaear yng Nghymru ar y 24ain o Fawrth, roedd y Brifysgol yn diffodd y llifoleuadau ar ei Brif Adeilad am yr awr, ac yn annog staff a myfyrwyr i ymuno drwy gymryd camau hefyd.

Rydym yn falch i gymryd rhan yn Awr Ddaear ac yn gyffrous ynghylch bod yn rhan o ddigwyddiad mor fawr sy’n ysbrydoli cymaint. Gall pawb wneud gwahaniaeth i helpu i warchod ein planed ac mae gennym ni i gyd ran allweddol i’w chwarae,” meddai Dr Liz Shepherd, Swyddog Cynaliadwyedd a Chydlynydd Ynni’r Campws.

Meddai Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru:

Rydyn ni wrth ein bodd roedd Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yn Awr Ddaear eleni ac yn gobeithio roedd yn ysbrydoli llawer o bobl eraill i gymryd rhan hefyd. Drwy gymryd un cam syml, sef diffodd eich goleuadau, byddwch yn ymuno â miliynau o bobl o bob cwr o’r byd yn y dathliad arbennig hwn.”

Roedd y Brifysgol yn ymuno â lleoliadau ac adeiladau amlycaf Cymru, gan gynnwys y Senedd ym Mae Caerdydd, Castell Caernarfon, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth a Phont Gludo Casnewydd, ynghyd â miloedd o adeiladau a strwythurau eiconig ledled y byd, o Bont Harbwr Sydney i Times Square yn Efrog Newydd, wrth iddynt ddangos eu cefnogaeth. Mae arddangosiad unigryw Awr Ddaear o dywyllwch wedi troi’n ddigwyddiad byd-eang, gyda channoedd o filiynau o unigolion yn dod ynghyd bob blwyddyn.

Mae cymryd rhan yn Awr Ddaear yn weithred symbolaidd i gefnogi gwarchod ein planed wych. Gyda’n gilydd gallwn sicrhau newid.

Gall pawb ymuno ag Awr Ddaear WWF. Ewch i Awr Ddaear WWF i weld sut gallwch chi gefnogi y flwyddyn nesaf.


0 comments


Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Social Network Widget by Acurax Small Business Website Designers