Y Lab Cynaliadwyedd dyfodol gwell ar y gweill

Ynni Ogwen – Ceir Gwyllt, Cesig Eira a Babi’r Chwyldro!

Blog IWA a BU

gan Meleri Davies

Mae cornel fach o Wynedd wedi bod yn gwneud ei marc yn y byd ynni cymunedol dros y dair mlynedd ddiwethaf ac mae hynny’n bennaf oherwydd dycnwch gwirfoddolwyr sydd eisiau defnyddio ynni naturiol eu afonydd i greu dyfodol gwell i’w hardaloedd. Dyma yn gryno yw hanfod cynlluniau Ynni Padarn Peris dros y mynydd yn Llanbêr ac Ynni Anafon tua’r arfordir yn Abergwyngregyn. Dyna hefyd hanfod cynllun Ynni Ogwen – cynllun hydro cymunedol ym Methesda, Dyffryn Ogwen dwi wedi cael y fraint o weithio arni dros y dair mlynedd ddiwethaf.

Cynllun Ynni Ogwen SchemeRoedd Ynni Ogwen yn fabi i fenter gymdeithasol Partneriaeth Ogwen – mudiad sy’n datblygu prosiectau adfywio yn Nyffryn Ogwen a fy nghyflogwr i fel Prif Swyddog. Datblygu cynllun hydro Ogwen oedd un o brif brosiectau’r Bartneriaeth – gorchwyl gweddol syml feddyliech chi… 3 mlynedd i lawr y lein, dwi’n gallu dweud a llaw ar fy nghalon mai hwn yw un o’r prosiectau mwyaf heriol i mi erioed ymwneud a hi. Ar y llaw arall, mae’n brosiect sydd wedi rhoi boddhad mawr i fi a’r gwirfoddolwyr eraill.

Car Gwyllt

Car Gwyllt ydy’r enw ar gerbyd y chwarelwyr i wibio i lawr incleins y chwareli ac mae’n debyg fod taith mewn car gwyllt yn eithaf tebyg i’r profiad o ddatblygu cynllun hydro cymunedol ar brydiau! Mae rhywun wastad yn dal ei wynt achos mae ‘na rhyw newid polisi sy’n mynd i’ch taflu oddi ar y cledrau neu o leiaf eich dargyfeirio ar bob cornel o’r daith!

I dorri stori hir yn fyr, treuliasom dros flwyddyn yn braf yn trafod lleoliad ein cynllun hydro efo Cyfoeth Naturiol Cymru – y corff sy’n rheoleiddio afonydd Cymru. Roedd sawl opsiwn ar y cardiau ond ar ôl comisiynu nifer o astudiaethau (pysgod, ystlumod a choed ac yn y blaen) a thrafod rhain efo CNC, fe’n dargyfeiriwyd a lleihawyd maint ein cynllun ni o’r 500kW arfaethedig i gynllun 100kW ar yr afon Ogwen ym Methesda. Yn ystod y cyfnod yma, daeth y newyddion syfrdanol o du Llywodraeth San Steffan fod y cymhorthdal Feed in Tariff yn cael ei dorri ddiwedd 2015. I nifer o grwpiau cymunedol fel ni ar draws Cymru, roedd hyn yn chwalu eu cynlluniau busnes. Yn lwcus i ni, roedd hyn yn doriad i’r rhagolygon ariannol ond ddim yn angheuol.

Wrth gwrs, mae’r uchod yn her sylweddol yn ei hun i unrhyw grŵp cymunedol sy’n datblygu cynllun hydro. Yn gyntaf, does gan y rhan fwyaf o grwpiau cymunedol ddim cronfa ariannol swmpus i dalu am yr holl astudiaethau angenrheidiol ac yn ail, does gan y rhan fwyaf o’r grwpiau ddim y capasiti yn eu mysg i ddehongli yr holl astudiaethau sy’n cael eu comisiynu. Yn achos Ynni Ogwen, bu’n rhaid i ni ymgeisio am sawl grant i’n helpu i ariannu’r cyfnod ‘cyn-caniatâd cynllunio/echdynnu’ yma a daeth y rhan helaeth o’r pres yna o du Llywodraeth Cymru.

Yn anffodus, gallwn dreulio oriau yn trafod yr anawsterau dirifedi ond taw pia hi dwi’n meddwl…. Yr oll allaf ddweud ydy nad yw’r frwydr byth drosodd ac mae her sylweddol arall yn ein wynebu ar hyn o bryd ar ffurf codiad aruthrol mewn trethi busnes…ond stori arall yw honno…

Egni Cymunedol

Hywel Williams AS yn Ynni Ogwen

Yr hyn sydd wedi rhoi’r boddhad mwyaf i fi’n bersonol o fod yn ymwneud a’r cynllun yma ydy agor cynllun cyfranddaliadau cymunedol. Wedi derbyn ein caniatâd cynllunio a thrwydded i dynnu dŵr o’r afon, sefydlu Ynni Ogwen Cyf fel Cymdeithas Budd Cymunedol, cytuno’r cytundebau les gyda’r Tirfeddianwyr a llawer mwy o waith, roeddem yn barod i agor cynllun cyfranddaliadau cymunedol. Rhyw ffurf o ariannu torfol oedd hwn oedd yn rhoi cyfle i bobl fuddsoddi yng nghynllun Ynni Ogwen Cyf trwy brynu cyfranddaliadau. Mewn cwta ddeufis, roedd gwerth £459,600 o gyfranddaliadau wedi eu prynu gyda 85% o’r buddsoddwyr hynny yn hanu o’r ardal. Roedd yn golygu fod holl gostau adeiladu’r cynllun hydro yn cael ei ariannu heb fynd at fanc masnachol am fenthyciad. Mae hyn yn swm aruthrol i ardal fel Dyffryn Ogwen ac yn destun balchder mawr i ni. Yn bwysicach, roedd yn golygu fod cynllun Ynni Ogwen yn gynllun cymunedol yng ngwir ystyr y gair – egni pobl leol aeth fewn i’w greu, arian pobl leol sydd wedi ei wireddu a phobl leol fydd yn elwa ar yr elw cymunedol fydd yn cael ei greu. Yn ogystal a hynny, llwyddasom i gyflogi pobl leol ar hyd y daith gyda chontractwyr o Wynedd a rheolwr prosiect o Fethesda. Rydym yn credu’n gryf yng ngwreiddiau cymunedol Ynni Ogwen ac mae rhaeadru’r holl fudd yn ôl i’r Dyffryn yn greiddiol i ni. Dyma’r rheswm mae’n debyg i ni ddod a thlws ‘Ymgysylltu Cymunedol’ Gwobrau Renewables UK Cymru yn ôl i Ddyffryn Ogwen yn 2016.

Mae’n braf dweud fod y cynllun hydro yn awr wedi ei adeiladu ac rydym yn cynhyrchu trydan glan a chynaliadwy yn Nyffryn Ogwen! Yn ogystal a’r egni hydro, mae’r egni pobol yn aruthrol a mae cydweithio efo’r gwirfoddolwyr ar y Bwrdd ac eraill wedi bod yn agoriad llygad. Mae miloedd o oriau gwirfoddolwyr wedi mynd i mewn i ddatblygu’r cynllun. Gwirfoddolwyr sydd hefyd yn awr yn goruchwylio gweithrediad y cynllun trwy ymweld a’r safle a gweinyddu’r cynllun.

Caseg Eira

Ers datblygu cynllun Ynni Ogwen, mae mwy a mwy o gynlluniau cynaladwyedd ar waith yn Nyffryn Ogwen. I raddau, dwi’n gweld y cynllun fel catalydd neu gaseg eira sy’n esgor ar lot o brosiectau cyffrous. Ers dros flwyddyn, dwi wedi bod yn rhan o beilot Cyd Ynni – Ynni Lleol sy’n edrych ar ddulliau arloesol o ddefnyddio trydan hydro lleol o fewn cymunedau. Hynny yw, dim jesd allforio trydan i bedwar ban byd, ond ei ddefnyddio yn ein cymunedau am bris gostyngol. Mae tua 100 o gartrefi lleol yn Nyffryn Ogwen bellach yn rhan o’r cynllun yma sy’n helpu trigolion i gael trydan rhatach. Mae’r cant hefyd yn buddio o asesiadau effeithlonrwydd o’u cartrefi a digwyddiadau cymunedol fel Ffair Effeithlonrwydd Ynni a theithiau tywys i’r cynllun hydro. Mae’r prosiect yn dod a pobl at ei gilydd i drin a thrafod cynaladwyedd a gall hynny ond bod yn beth da.

Tu hwnt i Ddyffryn Ogwen, dwi hefyd yn gweithio ar y cyd efo’n ffrindiau dros y mynydd yn Llanberis ac Abergwyngregyn. Yn amlach na pheidio i rannu ceisiadau grant neu drafod lobio ond yn fwy diweddar hefyd, i drafod tyfu cymunedol, nofelau graffig am ynni cymunedol, ceir trydan a llawer mwy! Mae’r gaseg eira yn tyfu!

Babi’r chwyldro

A rŵan dwi ar gyfnod mamolaeth, adra efo’r plant yn gwirioni ar Eiri Gwyn – sy’n lwmpan 4 mis oed o lawenydd. A dyna i raddau pam dwi’n gneud hyn oll a pham dwi’n ymroi fewn i brosiectau cymunedol fel hyn. Prosiectau sydd wirioneddol yn amcanu i greu dyfodol gwell i’n plant. A dyna’r neges i unrhyw un sy’n darllen mae’n debyg – er yr anawsterau, mae bod yn rhan o gynllun ynni cymunedol yn werthfawr ar sawl lefel. Dim cwmnïau trydan yda ni, ond cymdeithasau budd cymunedol sy’n gweithredu yn gynaliadwy er budd ein amgylchedd, ein pobol, ein plant a’n dyfodol.

Mi fydda i, Meleri Davies yn egluro mwy am Ynni Ogwen mewn cyflwyniad byr ar faes yr Eisteddfod ac yn esbonio rhai o’r heriau a’r buddion i gynlluniau o’r fath.   Ewch i’n tudalen ddigwyddiadau am ragor o fanylion am y ddarlith ‘Troi’r dŵr/gwynt i felin ein hunain: datrys anghenion ynni lleol yn lleol’ fydd yn cael ei gynnal ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, gan Sefydliad Materion Cymreig mewn partneriaeth â Lab Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor ddydd Llun y 7fed o Awst 2017.  Darperir cyfieithu ar y pryd.

Nodyn gan y trefnwyr

Rydym yn awyddus iawn i glywed gan unigolion a chymunedau sydd â diddordeb yn hyn ymlaen llaw. Ein gobaith yw y bydd y digwyddiad yn esgor ar fwy o gydweithio a chyd-greu rhyng-gymunedol ac y bydd syniadau newydd yn deillio o’r digwyddiad.  Er mwyn cyfrannu at y sgwrs, cysylltwch drwy ein cyfryngau cymdeithasol @planetdotcymru #YnniLleolCymru neu gydag Einir Young neu Gwenith Elias.


0 comments


Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Animated Social Media Icons by Acurax Responsive Web Designing Company