Y Lab Cynaliadwyedd dyfodol gwell ar y gweill

Taith Ynni Padarn Peris

Blog IWA a BU

gan Dr Paula Roberts, Prifysgol Bangor

Cychwyn fy siwrne i Ynni Adnewyddol Gymunedol oedd Ynni Padarn Peris.

Grŵp o saith o unigolion a ddaeth at ein gilydd o ganlyniad i ‘rant’ gan un ohonom yn y papur bro am ddatblygiad ynni mawr arfaethedig yn y dyffryn. Nid gwrthwynebu’r datblygiad cymaint, ond fod adnoddau ein ardal ni yn mynd i lenwi pocedi unigolion ymhell iawn o Ddyffryn Peris… eto. Yn hytrach na cwyno amdano, gwneud rhywbeth amdano oedd ein dewis.

A dyna yw’r sbardun i’r rhan fwyaf o grwpiau o’r math. Nid o reidrwydd Ynni Adnewyddol ond buddsoddi elw o’n hadnoddau ni yn ein cymunedau ni.

Roedd y ffaith fod grwpiau eraill cyfagos wrthi’n datblygu eu prosiectau nhw hefyd yn sbardun ac mae cael cymunedau eraill yn gwneud pethau tebyg wedi bod o help mawr.

Ynni Padarn Peris hydroErbyn hyn mae gennym hydro fach ar Afon Goch yn Llanberis sy’n cynhyrchu hyd at 55kW pan mae’n bwrw ond nid dyna yw diwedd y stori gobeithio.

Un o’r cwestiynau sy’n codi bob tro yw beth yn union yw Ynni Cymunedol? Oes potensial iddo gyfrannu at y cyfanswm o ynni adnewyddol ac i ddatblygiad economaidd mewn ardaloedd?

Fe fyddwn i wrth gwrs yn dweud ‘oes’ i’r ddau bwynt uchod,  ond mae ganddo gyfraniad ychwanegol hefyd. Mae’r manteision cymdeithasol yn mynd ymhellach na’r manteision economaidd yn aml. Mae’n annog nodweddion fel mentergarwch, hyder yn eich gallu ac yng ngallu eich cydweithwyr a.y.y.b.

Beth yw’r prif heriau wrth wireddu cynlluniau o’r fath?

Ar yr un llaw mae hydro yn un o’r ffynonellau cynhyrchu ynni sy’n cael ei adnabod fel un o gonglfeini cynhyrchu mewn dyfodol carbon niwtral. Ond ar y llaw arall, mae’r tirlun gwleidyddol yn amlach na pheidio yn gwneud gwireddu cynlluniau o’r fath yn anodd.

Dwi yn meddwl yn aml fod llywodraethau a chyrff sy’n darparu cefnogaeth yn anghofio mai gwirfoddolwyr yn buddsoddi arian ein ffrindiau ac ein cymdogion ydym ni. Gan amlaf, nid arian banciau mawr o Lundain sy’n talu’r costau datblygu. O ganlyniad, mae grwpiau yn bwyllog iawn wrth wario’r arian hwnnw. Rydym yn aelodau o’n cymuned sy’n gwerthfawrogi pan fo unigolyn sydd heb fawr o arian yn sbâr yn rhoi £250 i ni ac yn gymaint ag y byddwn yn gwerthfawrogi unigolyn cefnog gyda £10k i’w fuddsoddi ac yn teimlo’r cyfrifodeb o’i fuddsoddi ar eu rhan.

Mae cynlluniau o’r fath yn cymryd blynyddoedd i’w hadeiladu. Mae’r rhan helaeth yn cymryd 3+ blwyddyn i’w gwireddu. Blwyddyn i’r grŵp (wedi iddo ddod at ei gilydd) weithio allan beth yw’r busnes, blwyddyn arall i fireinio’r cynllun a blwyddyn o godi arian ac adeiladu.

Yn anffodus mae’r hinsawdd polisi a chefnogaeth yn newid ar raddfa llawer iawn cyflymach na hyn. Ers i YPP gychwyn ar ddatblygu ein prosiect cyntaf, mae’r ‘Feed in Tariffs’ wedi dod i lawr, mae ardrethi busnes wedi mynd i fyny, hyn i gyd yn golygu fod angen addasu cynlluniau busnes, weithiau ar fyr rybydd ac ar ôl i’r arian gael ei fuddsoddi.

Yr her fwyaf i ni yw’r ansefydlogrwydd yma. Mae pob cynllun ynni, beth bynnag ei faint angen amser ond ‘does gan gwmnïau bach mo’r capasiti i ymdopi â’r newidiadau aml. Mae’r rhan helaeth o brosiectau tebyg  wedi bod yn llwyddiannus er gwaethaf polisïau a strategaethau gwleidyddol.

Mi fydda i, Dr Paula Roberts yn egluro mwy am Ynni Padarn Peris mewn cyflwyniad byr ar faes yr Eisteddfod ac yn esbonio rhai o’r heriau a’r buddion i gynlluniau o’r fath.   Ewch i’n tudalen ddigwyddiadau am ragor o fanylion am y ddarlith ‘Troi’r dŵr/gwynt i felin ein hunain: datrys anghenion ynni lleol yn lleol’ fydd yn cael ei gynnal ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, gan Sefydliad Materion Cymreig mewn partneriaeth â Lab Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor ddydd Llun y 7fed o Awst 2017.  Darperir cyfieithu ar y pryd.

Nodyn gan y trefnwyr

Rydym yn awyddus iawn i glywed gan unigolion a chymunedau sydd â diddordeb yn hyn ymlaen llaw. Ein gobaith yw y bydd y digwyddiad yn esgor ar fwy o gydweithio a chyd-greu rhyng-gymunedol ac y bydd syniadau newydd yn deillio o’r digwyddiad.  Er mwyn cyfrannu at y sgwrs, cysylltwch drwy ein cyfryngau cymdeithasol @planetdotcymru #YnniLleolCymru neu gydag Einir Young neu Gwenith Elias.


0 comments


Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Animated Social Media Icons by Acurax Responsive Web Designing Company