Y Lab Cynaliadwyedd dyfodol gwell ar y gweill

Ynni Cymunedol – Beth am ei gynnwys yn ein cwricwlwm newydd?!

Blog IWA a BU

gan Sioned Haf

Mae llawer o ddiddordeb yn natblygiad ynni cymunedol yng Nghymru.  Mae wedi cael ei adnabod fel sector bwysig sy’n cyflawni mesuron cynaliadwyedd, ymrwymo a rhoi grym i gymunedau lleol, paru cynhyrchiad ynni lleol gyda defnydd ynni ac adfywio economïau sy’n brwydro i oroesi.  Mae’n sector ddylai wneud i awduron Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ostwng i’w pengliniau ac wylo mewn llawenydd.

Ar wahân i werthfawrogi buddion gwerth ychwanegol ynni cymunedol (rhoi hwb i’r economi leol, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, lleihau tlodi tanwydd a.y.b., bu ychydig o ymdrechion gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi’r sector yng Nghymru, drwy gynlluniau fel Ynni’r Fro ac Ynni Lleol.  Dwi’n pwysleisio ‘ychydig’ yn y frawddeg ola’.  Nid yw’n ‘ddigonol’.  Ac mae’n bell iawn o fod yn ‘flaengar’.

Felly, er gwaethaf y rhethreg gadarnhaol sy’n clodfori’r sector, ac er gwaethaf y llond llaw o storïau  am ynni cymunedol llwyddiannus (sydd wedi llwyddo i frwydro ymlaen drwy system gynllunio feichus a digydymdeimlad), a’r awydd cynyddol am brosiectau ynni sydd â pherchnogaeth leol wedi eu rheoli’n lleol, ac ymchwil academaidd sy’n profi bod canlyniadau cadarnhaol i brosiectau ynni o’r fath, mae cyfleoedd ynni cymunedol yng Nghymru yn syrthio rhwng y stôl a’r llawr.

Ar hyn o bryd, cyfran fach iawn o’n hynni adnewyddadwy sy’n cael ei greu gan brosiectau sydd mewn perchnogaeth leol.  Os ydych chi eisiau deall yn llawn i’r fath raddau mae Cymru yn colli allan, a sut gall y sector ynni cymunedol edrych, edrychwch i gyfeiriad yr Almaen, Denmarc a’r Alban.

Yn anffodus, mae sector ehangach ynni adnewyddadwy yng Nghymru i weld yn parhau ag arferion traddodiadol y sector ynni carbon-ddwys.  Mae ein dibyniaeth ar ddatblygwyr masnachol i ddefnyddio ein hadnoddau naturiol ar gyfer enillion cyfalaf yn parhau.  Mae perchnogaeth yn aros yn nwylo datblygwyr allanol.  Buddion lleol?  Wel, mae ambell i swydd yn cael ei gynnig – diolch amdanynt!  Ydi hyn yn adlais o gyfnod y diwydiant glo, llechi a chopr y gorffennol?

Datblygiadau mawr yw’r arfer.  Datblygiadau masnachol yw’r arfer.  Perchnogaeth breifat yw’r arfer.  Mae datblygiadau bach yn aneffeithiol.  Mae datblygiadau cymunedol yn wyrdroëdig.  Mae perchnogaeth leol yn anodd.

Rhain yw’r credoau athronyddol cyffredin sy’n bodoli yn y sector ynni ac sydd angen eu herio.  Ond sut mae mynd ati i herio hen arferion Cymreig sydd wedi gwreiddio mor ddwfn?

Wel, gadewch i ni weld.  Tu hwnt i’r grwpiau eu hunain, y datblygwyr polisi a chanolwyr, faint o’n dinasyddion sydd wedi cael sgwrs gydag unrhyw un am hyn, neu hyd yn oed yn gwybod am y posibiliadau o ynni cymunedol?

Tu hwnt i’n dealltwriaeth o sut mae technoleg adnewyddadwy yn gweithio, faint o’n pobl ifanc mewn ysgolion sy’n trafod y ffordd mae’n adnoddau naturiol, ac yn benodol adnoddau naturiol adnewyddadwy digonol yng Nghymru, yn cael eu defnyddio, ac i fantais pwy?

Faint o bobl sy’n cwestiynu pwy sydd berchen yr ynni adnewyddadwy a’r adnoddau sy’n eu gyrru (pwy biau ar ein hafonydd, ein glannau, yr heulwen a’r gwynt?).

Disgyblion yn trafod ynni :: Pupils discussing energyChaiff y cwestiynau yma mo’u trafod yn ein hysgolion.  O ganlyniad, mae’r cyfle i feithrin cymdeithas sifil sy’n trafod materion o’r math, yn enwedig o amgylch defnydd adnoddau naturiol, a sector ynni adnewyddadwy cynaliadwy, yn isel iawn.

Mae’r sector ynni cymunedol yn rhoi’r cyfle i greu ynni mewn dull mwy cydwybodol a chyfrifol.  Mae hefyd yn rhoi cyfle i hybu twf ein cymdeithas sifil.  (Cyhoeddiad yr IWA yn 2010, ‘Growing Wales’ Civil Society’?).

Mae’r sector ynni cymunedol yn crynhoi i’r dim sut beth yw cymdeithas sifil sydd wedi ymrwymo i’w gilydd.  Grŵp o bobl weithgar, wybodus, yn cydweithio er mwyn creu prosiect gyda pherchnogaeth leol sy’n cyfrannu tuag at economi leol, adnodd ynni mwy cynaliadwy ac iach i’r amgylchedd, a chymdeithas leol ddeinamig a grymus.

Ond dylai’r materion yma gael eu trafod tu hwnt i gylchoedd ynni cymunedol.  Rydym wedi bod yn trafod ymysg ein gilydd am rhy hir.  Mae angen trafod a rhannu’r buddion posib all ddeillio o’r sector ar hyd y wlad, drwy gynllun cydunol.

Fel cam cyntaf felly rwy’n cynnig ein bod yn cynnwys ynni cymunedol ar y cwricwlwm cenedlaethol.  Rydym eisoes wedi bod yn darparu seminarau ar ynni cymunedol i fyfyrwyr cynradd ac ôl-radd yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, gan dderbyn adborth cadarnhaol a brwdfrydig.

Ond mae angen dechrau’n llawer cynt.

Mae’r sector ynni cymunedol o ganlyniad i’w hanes, cymhlethdod a’i weledigaeth yn berthnasol i nifer o bynciau sydd ar hyn o bryd yn cael eu hanelu at blant hynaf yr ysgol gynradd ac ysgolion uwchradd, yn enwedig hanes, daearyddiaeth a dinasyddiaeth.  Mae’n bwnc sy’n gallu herio dealltwriaeth ein plant a phobl ifanc o faterion yn ymwneud â hawliau cymunedau i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy eu hunain.

Mae hefyd yn ffordd o drafod y posibiliadau ddatganoli’r system ynni – creu clystyrau bach o ffynonellau ynni yn bwydo eu cymunedau eu hunain.  Gall myfyrwyr hefyd fynd i’r afael â materion fel brwydro yn erbyn tlodi tanwydd, annog arbed ynni a materion eraill lleol sy’n cryfhau cymunedau.

Drwy ein system addysg, gallwn ddechrau cynnwys ein dinasyddion ifanc mewn trafodaethau a gweithgaredd i herio arferion y system ynni presennol.  Mi fyddai dibynnu ar brosiectau ynni cymunedol sy’n bodoli’n barod (ac sydd eisoes yn cynnal baich trwm o waith gweinyddol) yn unig yn esgeulus  iawn.

O ganlyniad i grant fechan gan yr ESRC, mae Prifysgol Bangor wedi cymryd camau i gau’r  blwch yma yn y cwricwlwm.  Mae nofel graffig ddwyieithog ar-lein (gydag adnoddau dysgu ychwanegol), ar gael i ysgolion fis Medi eleni.  Y gobaith yw, y bydd yr adnodd yn annog ysgolion ac yn cynorthwyo athrawon, i gyflwyno ynni cymunedol fel pwnc i gyd-fynd gyda thrafodaethau traddodiadol am ynni adnewyddadwy a chynaliadwyedd.

Mae angen i ynni cymunedol ddechrau treiddio drwy gymdeithas mewn modd llawer mwy cynhyrchiol.  Can fod cwricwlwm newydd wrthi’n cael ei ddatblygu (ac a fydd yn cael ei gyflwyno yn 2018, a’i ddefnyddio ar draws Cymru o 2021 ymlaen), nawr, yw’r cyfle perffaith i sicrhau bod ynni cymunedol yn cael y sylw mae’n haeddu.

Tick TockMae Sioned Haf yn ymchwilydd ynni cymunedol ym Mhrifysgol Bangor. Derbyniodd ‘Tic Toc: Nofel graffeg am ynni, perchnogaeth a chymuned’ ac adnoddau dysgu ychwanegol gyllid gan Gyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Bangor a bydd ar gael heb gost ychwanegol i ysgolion fis Medi 2017.  Bydd yn cael ei lansio mewn digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar stondin Prifysgol Bangor, 11.00, 12fed o Awst.

Er mwyn cyfrannu at y drafodaeth o sut allwn godi ymwybyddiaeth a manteisio ar ynni cymunedol, dewch i ddarlith ‘Troi’r dŵr/gwynt i felin ein hunain: datrys anghenion ynni lleol yn lleol’ fydd yn cael ei gynnal ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol gan Sefydliad Materion Cymreig mewn partneriaeth â Lab Cynaliadwyedd Prifysgol ddydd Llun y 7fed o Awst 2017.  Darperir cyfieithu ar y pryd.

Nodyn gan y trefnwyr

Rydym yn awyddus iawn i glywed gan unigolion a chymunedau sydd â diddordeb yn hyn ymlaen llaw. Ein gobaith yw y bydd y digwyddiad yn esgor ar fwy o gydweithio a chyd-greu rhyng-gymunedol ac y bydd syniadau newydd yn deillio o’r digwyddiad.  Er mwyn cyfrannu at y sgwrs, cysylltwch drwy ein cyfryngau cymdeithasol @planetdotcymru #YnniLleolCymru neu gyda Einir Young neu Gwenith Elias.


0 comments


Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Animated Social Media Icons by Acurax Responsive Web Designing Company