Y Lab Cynaliadwyedd dyfodol gwell ar y gweill

Meddwl tu allan i’r bocs (neu tu fewn i’r bibell) – arloesi i ddatrys anghenion ynni lleol

Blog IWA a BU

gan Gwenith Elias a Prysor Williams

Eleni cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn, Ynys Ynni. Mae heriau sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd a chadw’r golau ‘mlaen yn adnabyddus a’r dadleuon o blaid ac yn erbyn cynlluniau cynhyrchu trydan mawr yn gallu bod yn danllyd ar brydiau.

Mae Sefydliad Materion Cymreig mewn partneriaeth â Lab Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor am droi’r chwyddwydr ar beth all unigolion a chymunedau wneud i helpu’n hunain i gwrdd â’r galw, i leihau tlodi tanwydd a pharatoi’n hunain ar gyfer y newid economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol anorfod sydd ar y gorwel.  Mae hwn yn un o gyfres o flogiau byr, lle mae Dr Prysor Williams yn sôn am ffyrdd y gallwn ddatrys rhai o’r heriau o gwmpas ynni yn lleol.

Mae bod yn arloesol, a meddwl tu allan i’r bocs yn holl bwysig.  Un enghraifft o hyn yw prosiect Dŵr Uisce (uisce yw’r gair Gwyddeleg am ddŵr) sydd yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Choleg y Drindod, Dulyn.  Mae cyfran helaeth iawn o’r egni mae cymdeithas yn ei ddefnyddio yn deillio o’n defnydd o ddŵr. Mae dau ran i’r prosiect, gydag un yn canolbwyntio ar adennill ynni yn y diwydiant dŵr, a’r llall ar adennill egni o ddŵr gwastraff. Mae’r prosiect yn cyfuno arbenigedd mewn technoleg a pheirianneg, busnes ac economeg, gwyddorau cymdeithasol, a’r gwyddorau naturiol i geisio atebion i rai o’r problemau sy’n wynebu’r sector dŵr.

Mae’r rhan fwyaf o ddŵr yr ydym yn ei ddefnyddio yng Nghymru (a llawer o wledydd eraill) yn deillio o lynnoedd yn yr ucheldir. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r boblogaeth a’n diwydiannau yn yr iseldir, megis ardaloedd arfordirol. Mae felly angen cludo llawer o ddŵr o’r tir uchel i’r tir isel. Golyga hyn fod cynnydd sylweddol mewn gwasgedd wrth i’r dŵr lifo ar hyd y pibellau, ac mae potensial o fyrstiau o ganlyniad. Mae rhan gyntaf y prosiect yn edrych ar ffyrdd o roi tyrbinau bach (rhai ‘micro’) oddi fewn i systemau dosbarthu dŵr sydd eisoes yn bodoli. Y bwriad wedyn fyddai ‘dal’ a defnyddio rhywfaint ar yr egni sy’n cael ei wasgaru o’r pibelli eisoes er mwyn atal byrstiau. Yn naturiol, fydd y prosiect yn cydweithio’n agos gyda’r diwydiant dŵr i wneud hyn.

Canolbwyntio ar wres mae ail ran y prosiect. Mae cynhesu dŵr yn broses sy’n defnyddio llawer o egni. Mae hi’n amlwg fod llawer o’n diwydiannau ni’n defnyddio llawer iawn o ddŵr. Fodd bynnag, os ystyriwch sectorau megis ysbytai a gwestai, maen nhw hefyd yn defnyddio llawer iawn o egni yn cynhesu dŵr o ryw 5-10 °C i ryw 40 °C. Yn aml iawn (e.e. mewn cawod), mae’r dŵr cynnes hwn yn llifo lawr y sinc mewn eiliadau wedyn, gan gario llawer o egni efo fo. Mae’r prosiect yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio technoleg i ‘ddal’ yr egni yma.

Mi fydda i, Dr Prysor Williams yn egluro mwy am y prosiect yn mewn cyflwyniad byr ar faes yr Eisteddfod ac yn esbonio rhai o’r ffyrdd arloesol, cymhleth, a syml o geisio lleihau’r defnydd o egni sy’n gysylltiedig â dŵr.   Ewch i’n tudalen ddigwyddiadau am ragor o fanylion am y ddarlith ‘Troi’r dŵr/gwynt i felin ein hunain: datrys anghenion ynni lleol yn lleol’ fydd yn cael ei gynnal ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Llun y 7fed o Awst 2017.  Darperir cyfieithu ar y pryd.

Nodyn gan y trefnwyr

Rydym yn awyddus iawn i glywed gan unigolion a chymunedau sydd â diddordeb yn hyn ymlaen llaw. Ein gobaith yw y bydd y digwyddiad yn esgor ar fwy o gydweithio a chyd-greu rhyng-gymunedol ac y bydd syniadau newydd yn deillio o’r digwyddiad.  Er mwyn cyfrannu at y sgwrs, cysylltwch drwy ein cyfryngau cymdeithasol @planetdotcymru #YnniLleolCymru neu gydag Einir Young neu Gwenith Elias.


0 comments


Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Animated Social Media Icons by Acurax Responsive Web Designing Company