Y Lab Cynaliadwyedd dyfodol gwell ar y gweill

8.10.18
Parti gwaith yng Ngardd Fotaneg Treborth

Newyddion - cymuned, Newyddion - Y Lab Cynaliadwyedd, Newyddion - prifysgol

Gan Jess Mullan, Cydlynydd Cyfleoedd Myfyrwyr (Cymdeithasau)

Volunteers clearing weeds at Treborth Botanic GardenDdechrau Hydref aeth Muhammad a fi i barti gwaith STAG a’r Gymdeithas Goedwigaeth yng Ngerddi Botaneg Treborth.

Cawsom ddiwrnod gwych yn tyfu planhigion, chwynnu planhigion estron sy’n ymledu a chael cip ar reoli coetir.  Roedd yn wych cael ein tywys o gwmas yr ardd a gweld faint o waith caled sydd yn y cefndir er mwyn gwneud y gerddi mor brydferth.

Mae’r myfyrwyr yn gweithio ochr yn ochr â Chyfeillion Treborth a Natalie, curadur yr Ardd Fotaneg.  Mae’n braf gweld aelodau staff, myfyrwyr ac aelodau’r cyhoedd i gyd yn cydweithio tua at yr un nod.

Volunteers having fun during tea break at Treborth Botanic Garden


0 comments


Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Social Media Integration by Acurax Wordpress Developers