Y Lab Cynaliadwyedd dyfodol gwell ar y gweill

4.1.17
Hwylus Cyf. yn derbyn MarcSiarter Busnes Cynaliadwy cyntaf 2017

Newyddion - busnes, Newyddion - Y Lab Cynaliadwyedd

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai Hwylus Cyf. yw’r cwmni cyntaf i dderbyn y MarcSiarter Busnes Cynaliadwy yn 2017!  Ymgynghoriaeth ddwyieithog yw Hwylus Cyf. yn arwain strategaeth cynaliadwy trwy ddylunio pwrpasol a chyfathrebu ystyrlon.  Sefydlwyd Hwylus Cyf. yn 2016 ac mae’n cynnig gwasanaethau cefnogi sgopio, cynllunio, gweithredu a gwerthuso prosiectau gan ddarparu arbenigedd yn ymwneud â chynaliadwyedd, datblygiad gwledig, ymrwymiad rhan ddeiliaid a dehongliad treftadaeth ac wedi ei leoli yng Ngheredigion.

Helen Howells

Helen Howells

Dywed Helen Howells, Cyfarwyddwr Hwylus Cyf.:

Mae hyn yn ddechreuad Hwylus i 2017! Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r MarcSiarter ac i fod y cwmni cyntaf i dderbyn y clod yn 2017. Mae hyn yn Wobr Ddwbl i Hwylus, gan wnes i dderbyn Aelodaeth Lawn o IEMA a statws Amgycheddwr Siartredig cyn ‘dolig.”

Mae Hwylus Cyf. yn gweithio gyda’r Lab Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor ar faterion cynaliadwyedd ac wedi gwneud gwelliannau cadarnhaol ac wedi dangos ymrwymiad hir dymor i ddatblygiad cynaliadwy.

Yn ôl Dr Gwenith Elias, Lab Cynaliadwyedd, Prifysgol Bangor:

Mae wedi bod yn bleser darganfod sut mae Hwylus Cyf wedi mewnblannu egwyddorion datblygiad cynaliadwy i weithgaredd y cwmni a dysgu am eu cynlluniau i ddatblygu a pharhau i wellau a chyfrannu at gefn gwlad Cymru gynaliadwy.  Rwy’n edrych ‘mlaen at barhau i gydweithio yn 2017!”

Dilynwch ddatblygiad Hwylus Cyf ar @HwylusTweets neu ewch i’w gwefan.

Logo Hwylus


0 comments


Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Animated Social Media Icons by Acurax Responsive Web Designing Company